YMATEB LLYWODRAETH CYMRU I'R CASGLIADAU yn ADRODDIAD Y PWYLLGOR CYLLID:

 

CRAFFU AR GYLLIDEB ATODOL GYNTAF LLYWODRAETH CYMRU 2018-19

 

 

awST 2019

_______________________________________________________________

 

 

Argymhelliad 1

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth am yr adolygiad y mae’n bwriadu ei gynnal o’i hadnodd asesu effaith. Dylid darparu’r manylion hynny cyn gosod cyllideb ddrafft 2020-21.

 

Ymateb: Derbyn

 

Cafodd yr adnodd ar gyfer cynnal asesiad effaith integredig ei lansio fel peilot ym mis Gorffennaf 2018, a gwnaed ymrwymiad bryd hynny i gynnal adolygiad ohono. Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n diffinio cwmpas yr adolygiad hwnnw, er mwyn profi effeithiolrwydd yr adnodd, a sut y gellid ei wella. Cyfarfu swyddogion â Phanel Cynghori Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ym mis Mai, ac maent wedi ymrwymo i barhau i gydweithio â'r grŵp hwnnw yn ystod y broses adolygu. Fel rhan o'r adolygiad, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n cyfrannu at y gwaith cychwynnol o ddatblygu'r adnodd, ac yn cynnal ymchwil strwythuredig gyda defnyddwyr. Rydym wedi ymrwymo i gwblhau'r gwaith adolygu erbyn mis Rhagfyr 2019.

 

Argymhelliad 2

Mae’r Pwyllgor yn ailadrodd ei argymhelliad blaenorol, ac unwaith eto, mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu cynnwys y wybodaeth sy’n cyd-fynd â’r gyllideb atodol yn y dyfodol, â’r bwriad o gysoni’r naratif yn well â chyllidebau drafft a’r gyllideb derfynol.

 

Ymateb: Derbyn

Rydym eisoes wedi derbyn argymhelliad gan y Pwyllgor ynghylch yr wybodaeth yr ydym yn ei darparu fel rhan o broses y gyllideb atodol, ac rydym yn parhau i adolygu dogfennaeth ein cyllideb yn barhaus.

 

Mae ffocws gwahanol i'r ddogfennaeth sy'n cefnogi'r broses o gynllunio'r gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, gan fod y cynigion hynny'n gosod blaenoriaethau a dyraniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob portffolio yn y flwyddyn ariannol nesaf o leiaf. Mae cyllidebau atodol yn sylfaenol wahanol, ac rydym yn falch bod y Pwyllgor wedi cydnabod y ffaith honno, a'r angen i ddogfennaeth atodol fod yn gymesur.

 

Wrth adolygu'r wybodaeth y dylid ei darparu i gefnogi cyllidebau atodol yn y dyfodol, byddwn yn mynd ati i sicrhau cydbwysedd rhwng cymesuredd ac eglurhad pellach o'r dyraniadau arwyddocaol a gynigir ynddynt.

 

Argymhelliad 3

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am yr adnodd olrhain/gwirio siwrnai Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y cyfeiriwyd ato wrth graffu ar y gyllideb ddrafft, gan gynnwys pa gerrig milltir a gaiff eu cynnwys.

 

Ymateb: Derbyn

 

Rydym wedi cydnabod eisoes mai proses esblygol fydd ymgorffori egwyddorion ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein gwaith o gynllunio cyllidebau. Wrth ystyried yr adborth a'r dystiolaeth flaenorol a gafwyd yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb, gweithredwyd nifer o fesurau yng nghyllideb y llynedd i dynnu mwy o sylw at sut y mae ein gweithgareddau'n cyfrannu at ein 12 amcan llesiant. Hefyd gwnaethom gynnwys cyfres o astudiaethau achos i ddangos sut yr ydym yn ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ym mhroses y gyllideb ac yn blaenoriaethu Ffyniant i Bawb. 

 

 

Fel y dywedodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor, rydym yn gweithio'n agos â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'i swyddfa i ddatblygu'r dull o wirio hynt y gwaith, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i fonitro cynnydd. Caiff manylion pellach am yr adnodd gwirio siwrnai ei gyhoeddi ochr yn ochr â chyllidebau yn y dyfodol.

 

Argymhelliad 4

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn dilyn yr holl lwybrau sydd ar gael iddi i ddatrys y mater o ran cyllid ar gyfer pensiynau’r sector cyhoeddus ac yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor pan fydd ar gael.

 

Ymateb: Derbyn

 

Fel y dywedwyd yn Natganiad Ysgrifenedig y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ym mis Mehefin, roedd Llywodraeth Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i fynegi eu pryderon difrifol nad yw'r cyllid arfaethedig yn diwallu'n llawn gostau'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gorfodi. Mae hyn yn annerbyniol ac yn tanseilio'r Datganiad o Bolisi Cyllid a'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid o fewn y DU. Ymatebodd cyn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys drwy ailadrodd safbwynt Llywodraeth y DU nad oedd y newid i gyfradd disgownt SCAPE yn benderfyniad polisi, a bod y Datganiad o Bolisi Cyllid yn cefnogi darparu cyllid drwy Fformiwla Barnett.

 

Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi codi'r mater pwysig hwn gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, ac ar y cyd a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, mae'n ceisio cyfarfod cynnar o grŵp pedairochrog y Gweinidogion Cyllid er mwyn datrys y sefyllfa. Rydym yn croesawu bwriad y Pwyllgor i ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch sut mae newidiadau pensiwn yng Nghymru'n cael eu hariannu, a'r Datganiad o Bolisi Cyllid.

 

Argymhellion 5 a 6

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu manylion ychwanegol am sut y bydd yr arian cyfalaf o £85 miliwn yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n deillio o Brexit.

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell, pe bai Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid ychwanegol ar gyfer pecyn ysgogi pellach, fod manylion yn cael eu cynnwys am y risgiau y bwriadwyd i’r cyllid eu lliniaru.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Is-bwyllgor y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd yn rhoi cyfeiriad strategol i waith Llywodraeth Cymru gyda'r nod o sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru wrth ymateb i'r materion sy'n codi yn dilyn y refferendwm ar ymadael â'r UE. Mae hyn yn cynnwys dull gweithredu ar gyfer gwneud ymyriadau economaidd mewn perthynas â Brexit er mwyn sicrhau bod economi Cymru yn y sefyllfa orau i wrthsefyll y canlyniadau pe baem yn ymadael â'r UE heb gytundeb.  

 

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gallai buddsoddi effeithiol yn y seilwaith sbarduno galw o fewn yr economi yn y tymor byr i'r tymor canolig, ac ar yr un pryd gallai wella ochr gyflenwi yr economi yn y tymor hirach, yn ogystal â sicrhau canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol.

 

Mae'r ysgogiad cyfalaf o £85 miliwn yn cynnwys:

 

·         £50 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi mewn tai cymdeithasol;

 

·         £20 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol;

 

·         £10 miliwn tuag at Gronfa Dyfodol yr Economi;

 

·         £5 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar gefnffyrdd a'r draffordd. 

 

Mae profiad blaenorol o economi sy'n arafu yn dangos mai'r sector adeiladu yn aml fydd y cyntaf i ddioddef, ac yn aml bydd yr effeithiau ar y sector hwn yn anghymesur o fawr. Mae adeiladu ac adnewyddu tai yn faes penodol yn y sector adeiladu lle mae angen cyflogi nifer mawr o weithwyr; felly dylai gwario yn y maes hwn fod yn effeithiol o ran cynnal lefelau cyflogaeth.

 

Rhagwelir y bydd llawer o'r dyraniad a roddir i awdurdodau lleol yn cael ei wario ar weithgarwch sy'n ymwneud ag adeiladu. Disgwylir i hyn gael effeithiau cadarnhaol pellach wrth i gadwyni cyflenwi gael hwb ledled Cymru.

 

Mae'n hanfodol cynnal hyder busnesau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Nod y £10 miliwn a roddir i Gronfa Dyfodol yr Economi yw darparu cymorth uniongyrchol i fusnesau i'w helpu i wrthsefyll peryglon Brexit heb gytundeb, ac i sicrhau eu bod yn parhau yn y DU ar ôl inni ymadael â'r UE. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wrthi'n ystyried pecynnau ariannu i gefnogi amrywiaeth o brosiectau ar draws holl ranbarthau Cymru. 

 

Mae'r rhwydwaith ffyrdd yn chwarae rôl economaidd hanfodol yn y gwaith o gysylltu busnesau â marchnadoedd, a helpu pobl i gyrraedd eu gwaith yn eu ceir neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Byddwn yn rhoi ystyriaeth i argymhellion y Pwyllgor wrth lunio unrhyw becyn yn y dyfodol ar gyfer darparu ysgogiad cyfalaf i ymateb i Brexit. Er y byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod wedi paratoi cymaint â phosibl ar gyfer y posibilrwydd o ymadael â'r UE heb gytundeb ar 31 Hydref, mae cwmpas y gwaith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i leddfu effeithiau Brexit heb gytundeb yn gyfyngedig iawn. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr wedi ystyried y senarios gwaethaf a allai ddigwydd, lle y byddai economi'r DU yn mynd i ddirwasgiad dwys am gyfnod hir. Pe bai hynny'n digwydd, mae'n debygol y byddai'r effaith ar Gymru yn waeth hyd yn oed nag ar weddill y DU.

 

Argymhelliad 7

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall yr arian a allai fod ar gael yn achos “Brexit dim cytundeb” a bod y Pwyllgor yn parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae'n bryder mawr inni nad yw Llywodraeth y DU wedi gwrthod yn llwyr y posibilrwydd o ymadael â'r UE heb gytundeb ar 31 Hydref. Er y byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer yr ymyriadau angenrheidiol pe na fyddai cytundeb, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ynghylch yr effaith gatastroffig y byddai Brexit heb gytundeb yn ei chael ar Gymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan mewn ystod o drafodaethau – ar lefelau Gweinidogion a swyddogion – gyda Llywodraeth y DU, o ran cyllid ar gyfer ymyriadau a allai fod yn angenrheidiol pe baem yn ymadael heb gytundeb. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys cymorth posibl ar gyfer y busnesau a'r ffermwyr hynny y byddai Brexit heb gytundeb yn cael yr effaith waethaf arnynt, yn ogystal â'r aelwydydd mwyaf agored i niwed. 

 

Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn neilltuo £2.1 biliwn ychwanegol ar gyfer y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. O'r £1.1 biliwn a ddyrannwyd ar unwaith, bydd Cymru yn cael cyllid canlyniadol o £24.1m yn 2019-20. Yn ychwanegol at yr £1.1 biliwn, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau y bydd £1 biliwn arall ar gael i holl Adrannau Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig i gryfhau'r paratoadau gweithredol ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE heb gytundeb.  Bydd Cymru yn cael cyllid canlyniadol Barnet os bydd cyllid ychwanegol yn cael ei roi i Adrannau Llywodraeth y DU mewn meysydd lle'r ydym yn wynebu amgylchiadau tebyg. Gallwn hefyd gyflwyno ceisiadau am gyllid os byddwn yn wynebu pwysau sy'n anghymesur â'r pwysau sydd ar Loegr. 

 

Ni fydd y cyllid hwn yn agos at ddigon i amddiffyn aelwydydd, busnesau a ffermwyr rhag effeithiau gwaethaf Brexit heb gytundeb.

 

Argymhelliad 8

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Llywodraeth yn darparu manylion ynghylch sut y mae’n bwriadu cynllunio cyllidebau yn y dyfodol yng nghyd-destun argyfwng hinsawdd a pha gamau gweithredu penodol a fydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y datganiad o argyfwng yn cael ei adlewyrchu wrth gynllunio’r gyllideb.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae ein cynllun Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn cynnwys proffiliau allyriadau manwl ar gyfer pob sector unigol, a 100 o bolisïau a chynigion i wireddu Cymru carbon isel. Rydym eisoes wedi dechrau paratoi ein cynllun nesaf ar gyfer yr ail gyllideb garbon ar gyfer 2021-25.

 

Mae'n glir ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd, a bod yn rhaid inni godi lefel ein huchelgais yn barhaus, gan gynnwys yr uchelgais i sicrhau bod y cyllid cyfyngedig sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf posibl drwy weithredu ymyriadau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Er enghraifft, mae’r effeithiau carbon y bydd cynigion buddsoddi yn eu cael yn ystyriaeth allweddol wrth ddyrannu cyllid cyfalaf yn unol â Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae'r ystyriaeth hon hefyd yn un o'r rhesymau pam yr ydym yn canolbwyntio paratoadau'r gyllideb, sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth, ar wyth maes blaenoriaeth lle y gallwn gael yr effaith fwyaf yn y tymor hir, gan gynnwys datgarboneiddio.

 

Er ein bod yn cydnabod bod ein ffordd o gynllunio a dyrannu ein hadnoddau yn gallu cael effaith ar ein hymdrechion i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd gennym fel Llywodraeth mewn modd ehangach i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau, ac i annog ein holl gyrff cyhoeddus i ystyried sut y gallant hwythau gyfrannu at y gwaith hwn. Mae gan bawb rôl i'w chwarae.

 

Mae ein Deddf Amgylchedd wedi sefydlu system gadarn ar gyfer llywodraethiant. Yn dilyn cyngor gan ein Corff Cynghori, rydym wedi cynyddu ein llwybr hirdymor i ymateb i argyfwng hinsawdd (o 80% i 95% erbyn diwedd 2050). Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnwys targed uwch ar gyfer lleihau allyriadau yn y gyfraith, sef o leiaf 95%. Mae hyn yn golygu y bydd ein llwybr yn newid ac y bydd raid i’n cynlluniau cyflawni ar gyfer cyrraedd ein cyllidebau carbon adlewyrchu ein llwybr deddfwriaethol newydd. Mae datgarboneiddio yn gyfrifoldeb trawsbynciol i bob Gweinidog. Bydd angen i’n Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Carbon Isel ddangos yn barhaus sut y dylai pob Gweinidog gyfrannu camau gweithredu i’n cyllidebau carbon. O ganlyniad, bydd angen i bob Gweinidog ystyried y camau hyn yn eu penderfyniadau ariannu wrth bennu cynlluniau gwariant manwl y prif linellau gwariant.

 

Er enghraifft, yn y portffolio Cyllid, mae caffael yn rhan bwysig o’r ymdrechion i leihau allyriadau CO2 drwy'r cadwyni cyflenwi. Yn ogystal â sicrhau bod ei hadeiladau a'i cherbydau'n rhai effeithlon, rhaid i Lywodraeth Cymru (a'r sector cyhoeddus yn gyffredinol) gymryd camau i leihau allyriadau yn ehangach drwy roi sylw i sut maent yn mynd ati i gaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau. Drwy'r Dangosfwrdd Datgarboneiddio, a gafodd ei ddatblygu gan Gwerth Cymru, mae'r categorïau o wariant yn Llywodraeth Cymru (a chyrff yn y sector cyhoeddus ar draws Cymru), sy'n gyfrifol am ryddhau lefelau uchel o CO2, wedi cael eu nodi eisoes fel meysydd blaenoriaeth lle y bydd yn rhaid lleihau carbon. Drwy roi sylw i'r meysydd hyn a defnyddio dulliau caffael carbon isel yn seiliedig ar egwyddorion economaidd cylchol, ynghyd â monitro drwy reoli contractau'n effeithiol, mae yna bosibiliadau go iawn y gellir defnyddio’r broses gaffael i leihau allyriadau. Gallai hyn gael ei adlewyrchu yn yr hyfforddiant/e-ddysgu sydd ar gael ar draws portffolios y Gweinidogion, a gellid ei gefnogi hefyd drwy'r canllawiau/hyfforddiant/pecynnau y mae Gwerth Cymru yn eu datblygu ar gyfer y sector cyhoeddus yn ehangach.

 

Hefyd, rydym yn ystyried a fyddai'n bosibl cynnwys gofyniad mewn llythyron dyfarnu grant i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ddangos y camau y maent yn eu cymryd i gyflawni gofynion carbon isel. Byddai hynny yn cefnogi ac yn ategu'r cynllun gweithredu ar yr economi sy'n gofyn i fusnesau yng Nghymru ddangos yr hyn y maent yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch i ddatgarboneiddio. Byddai gweithredu dull deuol ar yr ochr caffael a chyflenwi yn ein galluogi i gael yr effaith fwyaf bosibl.

 

Argymhelliad 9

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion y costau sy’n gysylltiedig â symud o darged statudol o ostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050 i darged o 95 y cant.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Llywodraeth Cymru (ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban) wedi gofyn i Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (UKCCC) ailasesu ein targedau allyriadau ar gyfer y tymor hir. Daeth UKCCC i'r casgliad y dylai Cymru newid ei tharged allyriadau ar gyfer y tymor hir o 80% i 95%.

 

Nid yw'n bosib amcangyfrif yr union gostau sy'n gysylltiedig â thargedau allyriadau ar gyfer y tymor hir, gan fod yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth yn newid ac yn esblygu'n gyson, ac y bydd y costau'n ddibynnol ar benderfyniadau polisi llywodraethau dilynol. Bydd yr union gostau'n dibynnu ar sut y bydd technolegau carbon isel yn datblygu dros nifer o ddegawdau, a sut y bydd llywodraethau, busnesau, a grwpiau cymdeithasol ac unigolion eraill yn gweithredu. Gellir amcangyfrif costau bras ar gyfer y raddfa weithredu y bydd ei hangen ar draws y DU.

 

Wrth ddod i'w benderfyniad, cynhaliodd UKCCC werthusiad newydd o gostau a manteision lleihau allyriadau, a hynny gyda chymorth grŵp cynghori arbenigol dynodedig. Yn yr wybodaeth gynghori a gyhoeddwyd, amcangyfrifodd UKCCC y byddai'r gost o symud i darged sero net ar gyfer y DU, sef targed o 95% ar gyfer Cymru, rhwng 1% a 2% o'r cynnyrch domestig gros. Mae hynny'n cymharu â'r amcangyfrif newydd o gost ar gyfer y targed o 80%, a fydd yn costio llai na 1% o'r cynnyrch domestig gros yn ôl yr hyn a greda'r UKCCC. Felly, mae'r UKCCC o'r farn mai oddeutu 1% o'r cynnyrch domestig gros fyddai'r gost o symud o'r targed o 80% i'r targed o 95%.  

 

Yn y pen draw, bydd y gost i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru yn dibynnu ar y polisïau y mae llywodraethau dilynol yn eu mabwysiadu i gyrraedd y targed o 95%. Bydd y rhain yn destun proses graffu er mwyn sicrhau gwerth am arian.

 

Argymhelliad 10

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth ynghylch sut y mae’n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni ei hamcanion o ran cyllid a gyhoeddwyd fel rhan o’i phecyn cyllid cyfalaf o £85 miliwn.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol drwy'r Grŵp Cyllid Cyfalaf a Buddsoddi i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni amcanion y pecyn cyllid cyfalaf. Cafodd yr opsiynau dosbarthu eu trafod gan y grŵp hwn ym mis Gorffennaf. Argymhellodd yr aelodau mai fformiwla'r gronfa cyfalaf cyffredinol oedd y dull dosbarthu mwyaf priodol i'w ddefnyddio yn yr achos hwn er mwyn darparu hyblygrwydd i'r awdurdodau allu ymateb i anghenion gwahanol gymunedau lleol yn sgil Brexit.

 

Cafodd trefniadau monitro priodol eu trafod, a chytunwyd y byddai awdurdodau lleol yn adrodd i Lywodraeth Cymru ar sut y mae'r dyraniadau wedi cael eu defnyddio, sut maent yn lleihau'r risgiau sy'n deillio o Brexit, a'r effeithiau y bwriedir i'r gwariant eu cael ar yr economi leol drwy fecanweithiau partneriaeth sy'n bodoli eisoes, megis y Grŵp Cyllid Cyfalaf a Buddsoddi a'r Is-grŵp Cyllid. Roedd y llythyr grant ffurfiol yn gofyn i’r awdurdodau ystyried yr effeithiau ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd wrth iddynt ddefnyddio’r arian hwn. Byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o fanylion am yr ystod o weithgareddau a fydd yn cael eu cefnogi maes o law.

 

Argymhelliad 11

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion iddi am y cyllid y mae’n bwriadu ei ddarparu i Gomisiwn yr M4 ac am y camau nesaf a nodwyd gan y Prif Weinidog.

 

Ymateb: Derbyn

 

Y gyllideb ar gyfer y Comisiwn yw £5.2m, sy'n cynnwys costau aelodau'r Comisiwn, gan gynnwys eu costau amser, yn ogystal â thîm cyngor technegol i gefnogi'r Comisiwn, a thîm arbenigol Llywodraeth Cymru. Mae'r gyllideb hon yn caniatáu ar gyfer cynnal ymchwil ac astudiaethau a allai fod yn angenrheidiol i waith y Comisiwn.  Mae £4.2m wedi cael ei neilltuo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i weithredu'r mesurau cyflym sydd wedi eu nodi gan Brif Weinidog Cymru.

 

 

Argymhelliad 12

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Llywodraeth yn rhoi gwybodaeth iddi am y blaenoriaethau cyllido yn rhaglen gyfalaf 2019-20 yn sgil y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â phrosiect yr M4, yn enwedig o ran sut y mae hyn wedi effeithio ar ei strategaeth fenthyca.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cadw at yr egwyddor o ddefnyddio'r mathau o gyfalaf lleiaf drud i’r eithaf, cyn defnyddio ffynonellau eraill drutach. Yn unol â hyn, caiff lefel y benthyca y cynllunnir ar ei chyfer ei hadolygu bob blwyddyn fel rhan o'r broses o bennu cyllideb flynyddol. 

 

Mae'r cynlluniau yr ydym wedi eu cyhoeddi ar gyfer 2019-20 yn cynnwys £125m o gyllid benthyg, sef y rhan fwyaf o'r £150m y caniateir i Lywodraeth Cymru ei fenthyca bob blwyddyn. Fel y dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn y Pwyllgor, nid yw Llywodraeth Cymru yn benthyca cyllid i ariannu prosiectau penodol, ond i gynyddu ei gallu gwario cyffredinol.

 

Rydym wedi ei gwneud yn glir y byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith er mwyn hybu economi Cymru a helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw'r ffaith na fyddwn yn bwrw ymlaen â phrosiect yr M4 yn golygu y byddwn yn buddsoddi llai, ond yn hytrach, y byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau eraill.

 

Un o'n blaenoriaethau pennaf yn wyneb y ffaith bod yr ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn parhau, oedd darparu'r ysgogiad ariannol yr oedd ei angen i ddiogelu economi Cymru a chynnal hyder busnesau a'r sector adeiladu, yn enwedig os na fydd cytundeb. Dyna pam rydym wedi cyhoeddi pecyn ysgogiad cyfalaf i roi hwb uniongyrchol i economi Cymru.